1. Cynllunio’r gweithlu

1.1   Mae angen cofio pwysigrwydd cyfraniad gweithlu pob sector addysg er mwyn gwireddu gweledigaeth Miliwn o Siaradwyr Cymraeg.

1.2   Gyda’r addewid o gynnig 30 awr o ofal plant am ddim, bydd angen cynllunio’n ddi-oed i sicrhau y gellir darparu’r cynnig yn y Gymraeg, ac i hyrwyddo’r cynnig hwnnw. Bydd cydweithio gyda Mudiad Meithrin yn hanfodol i sicrhau bod gweithlu â sgiliau digonol yn ei le, gan gynnwys ehangu llwybrau hyfforddiant megis Cam wrth Gam, a llwybrau eraill, gan gynnwys cyrsiau cyfrwng Cymraeg mewn colegau addysg bellach.

1.3   Mae’r cyfnod cyn addysg orfodol, ysgolion, addysg bellach ac addysg uwch a gweithlu gwasanaethau cymorth i ddisgyblion oll â chyfraniad allweddol ac mae angen datblygu sgiliau’r ymarferwyr yn y Gymraeg.

1.4   Mae angen ystyried pwysigrwydd gwella dealltwriaeth y gwasanaeth sifil am faterion y Gymraeg.  Yn rhy aml nid yw’r Gymraeg yn cael ystyriaeth ddigonol na digon arbenigol wrth gynllunio strategaethau, polisïau a deddfwriaeth. Mae’r sefyllfa digon tebyg ar lefel Llywodraeth Leol.

1.5   Mae recriwtio’r niferoedd cywir a’r bobl gyda’r sgiliau sydd angen arnom i’r swyddi amrywiol hyn yn holl bwysig. Er mwyn gallu gwneud hyn yn effeithiol mae angen cael gwybodaeth drylwyr am natur y gweithlu presennol a chynllunio’n strategol gan gynnwys targedau a cherrig milltir i fesur llwyddiant dros amser. Mae hyn yn arbennig o bwysig at bwrpas ateb gofynion y Cwricwlwm newydd a Strategaeth Miliwn a Siaradwyr Cymraeg. Mae angen sicrhau trosolwg a chynllunio strategol er mwyn gosod targedau clir ac uchelgeisiol ar gyfer:

-   cynyddu niferoedd / canrannau myfyrwyr i ddilyn y cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer addysgu ym mhob cyfnod allweddol a phob pwnc

-   cynyddu nifer yn dilyn cwrs Cymraeg fel pwnc.

-   Cynyddu niferoedd (trwy feithrin ei sgiliau) sydd yn hyderus i gyfrannu at greu ethos Cymreig mewn ysgolion.

1.6   Gellir dadlau bod y broblem o gynllunio’r gweithlu addysg yn broblem systemig hir dymor. Mae gormod yn cael ei adael i hap a damwain ar hyn o bryd. Hyderwn bydd y gwaith paratoi sydd wedi ei gychwyn gan y Llywodraeth ar gyfer casglu data yn dod â gwybodaeth fwy penodol am y gweithlu addysg, gan gynnwys lefel hyfedredd / cymwysterau Cymraeg a dyheadau’r gweithlu ar gyfer eu gyrfa. Mae’n bwysig defnyddio dull effeithiol, hwylus o gasglu data angenrheidiol ac i wneud hyn cyn gynted â phosib.

1.7   Yn y cyfamser, nes bod y system yn ei le ar gyfer casglu data mae angen gweithredu ar yr hyn rydym yn gwybod yn bendant, e.e.:

-   nid ydym yn hyfforddi digon o athrawon i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg nac i arbenigo yn y Gymraeg fel pwnc

-   mae’n ymddangos yn flynyddol nad yw’r Sefydliadau Addysg Uwch yn ymwybodol o’r niferoedd o fyfyrwyr sydd yn gallu siarad Cymraeg, os nad ydynt yn dilyn cwrs / cyrsiau cyfrwng Cymraeg

-   mae 27% o athrawon sydd wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn dweud eu bod yn gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg (bydd angen llawer mwy o athrawon cyfrwng Cymraeg na hyn er mwyn gwireddu’r weledigaeth)

-   mae 33% o athrawon sydd wedi cofrestru gyda CGA yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg

1.8   Mae’r newidiadau i drefniadau Addysg Gychwynnol Athrawon a’r system achredu newydd yn cynnig cyfle. Gellir defnyddio’r system achredu i sicrhau bod llefydd cyfrwng Cymraeg a’r Gymraeg fel pwnc ar gael ac yn cael eu llenwi yn y sefydliadau addysg uwch / partneriaethau. Mae angen gosod targedau ar gyfer hyn a chynyddu’r niferoedd.

1.9   Yn anffodus nid yw’r ymgynghoriad am drefniadau newydd ar gyfer Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon yn achub y cyfle i bennu targedau. Nid yw’n cynnwys manylion am sut i sicrhau niferoedd digonol o gyfleoedd i ddilyn cyrsiau cyfrwng Cymraeg na gosod targedau ar gyfer denu myfyrwyr i ddilyn cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Gymraeg fel pwnc mewn sefydliadau addysg uwch / partneriaethau. Cred UCAC bod angen i bob SAU/partneriaeth gynnig llwybr cyfrwng Cymraeg ac amlinellu natur y llwybr, a’r gofynion o ran y meini prawf fel rhan o’r broses achredu.

1.10     Does dim byd yn y ddogfen ymgynghorol yn gosod y cyfrifoldeb dros fonitro cynnwys cyrsiau cyfrwng Cymraeg a cwotas niferoedd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn nwylo Corff Achredu. Mae hyn yn enghraifft o ddiffyg cyd-lynu ar draws polisïau a diffyg prif-ffrydio’r Gymraeg wrth gynllunio a chyflwyno newidiadau i’r gyfundrefn addysg. Rhaid peidio â cholli’r cyfle i greu cyfundrefn newydd Addysg Gychwynnol Athrawon bydd yn arwain at dargedau ar gyfer llefydd cyfrwng Cymraeg, siaradwyr cyfrwng Cymraeg a Chymraeg fel pwnc.

1.11     Dylai fod modd dilyn y cwrs yn gyfan gwbl ac yn rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae angen diffiniad llawer mwy eglur o’r hyn sy’n cael ei gyfrif yn gwrs ‘cyfrwng Cymraeg’ neu’n gwrs sy’n cymhwyso athrawon i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg; mi allai gwmpasu Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn rhoi sicrwydd i gyflogwyr o’r medrau dan sylw; mae angen symud ymlaen o’r cynllun peilot ar fyrder.

1.12     Rhaid i ni gofio pwysigrwydd bod y sefydliadau addysg â darlithwyr / tiwtoriaid sydd yn gallu darparu elfennau’r cwrs / cefnogaeth trwy gyfrwng y Gymraeg a bod yr asesu hefyd trwy gyfrwng y Gymraeg.

1.13     O gynllunio’r ddarpariaeth yn well, a chreu darpariaeth fwy pwrpasol, mae angen mynd ati i recriwtio’n weithgar, gan gynnwys ymgyrchoedd marchnata, i ddenu’r niferoedd gofynnol o ymgeiswyr cymwys. Mae angen pwyslais ar ddenu siaradwyr Cymraeg gyda sgiliau Cymraeg da i’r proffesiwn. Mae lle i hybu addysgu fel gyrfa yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg yn gyffredinol a’n prifysgolion. Gellir hybu addysgu fel proffesiwn yn y prifysgolion gan dargedu myfyrwyr y Gymraeg fel pwnc a myfyrwyr sydd yn dilyn cyrsiau gradd cyfrwng Cymraeg.

1.14     Yn ôl Bwletin Ystadegol Llywodraeth Cymru ‘Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yng Nghymru, 2014/15’ (27 Hydref 2016 SB 46/2016), o'r sawl a gwblhaodd cyrsiau HCA yng Nghymru yn 2013/14, roedd 20% wedi cwblhau cwrs “a oedd naill ai wedi eu galluogi i addysgu'n ddwyieithog neu wedi arwain at dystysgrif ffurfiol o addysg ddwyieithog”. Roedd hyn 1% yn is nag yn 2013/14. Mae’n amlwg nad yw 20% yn mynd i fod yn ddigonol i gyflenwi ar y raddfa fydd ei angen, yn enwedig gan fod ansicrwydd ynghylch union natur mewnbwn ieithyddol y cyrsiau. Bydd angen pennu targedau twf, a strategaeth recriwtio uchelgeisiol.

2. Cefnogaeth i’r gweithlu: datblygiad proffesiynol parhaus

2.1    Mae angen darganfod beth yw dyheadau’r gweithlu presennol o ran gwella sgiliau Cymraeg / cyfleoedd defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a chynllunio ac ariannu hyfforddiant o safon uchel i fynd i’r afael â’r anghenion hyn. Mae sawl categori o gefnogaeth debygol sydd angen a bydd angen teilwra cefnogaeth at anghenion yr unigolyn ond gwneud hynny’n strategol. Mae’n rhaid i unrhyw hyfforddiant ddigwydd tu fewn y diwrnod gwaith.

2.2    Gall fod rôl gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, yr ALL a’r Consortia i gefnogi gyda’r fath hyfforddiant. 

2.3    Ar hyn o bryd mae 12,292 (33%) o athrawon sydd wedi cofrestru gyda CGA (Cyngor y gweithlu Addysg) yn dweud eu bod yn siaradwyr Cymraeg; mae 10,139 (27%) ohonynt yn nodi eu bod yn gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae’n debygol byddai’r 2000+ o athrawon hyn nad ydynt yn teimlo’n hyderus i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd, yn awyddus i wella’i sgiliau fel bod modd iddynt wneud cyfraniad at naill ai Gymreigio ethos eu hysgol neu wneud ychydig o addysgu cyfrwng Cymraeg.

2.4    Bydd angen sicrhau bod modd adeiladu ar sgiliau Cymraeg y gweithlu dros gyfnod (yn ôl dymuniad yr unigolyn). Mae’n bosib byddai cyflwyno gwybodaeth i rai am y Gymraeg a’r disgwyliadau o ran hawliau disgyblion a rhieni o fudd. Mae’n bwysig torri lawr rhwystrau a pheidio â gelyniaethu pobl.

2.5    Mae’n bosib bydd rhai athrawon (sydd ar hyn o bryd yn y grŵp sylweddol sydd heb nodi unrhyw wybodaeth am eu gallu yn y Gymraeg wrth gofrestru gyda CGA) â rhywfaint o sgil ond yn hollol anhyderus. Gydag anogaeth efallai byddai modd datblygu eu sgiliau hwy.

2.6    Mae angen mynediad at hyfforddiant o safon uchel yn ystod pob cam o’r yrfa ac mae cyrsiau datblygu sgiliau Cymraeg a chyrsiau cyfrwng Cymraeg o safon uchel ar gyfer y gweithlu cyfrwng Cymraeg yn rhan annatod o hyn.

2.7    Mae’r Cynllun Sabothol wedi cael cryn lwyddiant (gweler ‘Gwerthusiad o'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg: Adolygiad o'r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg ar gyfer ymarferwyr addysgol: profiad cyfranogwyr 2011-2012 (Ionawr 2014)), a dylid edrych ar opsiynau ar gyfer ei ymestyn, gan gynnwys ar y cyd gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.

2.8    Prif wendid y Cynllun Sabothol fu’r anhawster i ryddhau athrawon o’r ysgolion, a hynny er bod telerau’r cynllun yn hael o ran tâl ar gyfer cyflenwi. Mae’n werth ystyried sut i gymell ysgolion i wella sgiliau ieithyddol eu staff, ac felly cynyddu eu parodrwydd i ganiatáu staff i fynychu’r Cynllun Sabothol.

2.9    Bydd angen ystyried cynnig amrywiol llwybrau a mathau o hyfforddiant, ar y cyd â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, er mwyn cyrraedd y nifer fwyaf posib o ymarferwyr, gan gynnwys cyrsiau ar-lein/dysgu o bell.

2.10  Yn yr un modd â phobl eraill sy’n dysgu’r iaith, neu’n gwella’u sgiliau, bydd angen cyfleoedd anffurfiol, cymdeithasol y tu allan i’r gweithle; cyfleoedd sydd o bosib yn agor drysau i gymunedau diddordeb gan gynnwys ar-lein. Mae cefnogaeth ar ôl dychwelyd i’r gweithle ar ôl bod ar gwrs iaith yn hollbwysig, ac mae angen cynllunio ar gyfer hynny - o fewn y gweithle a thu hwnt.

2.11  Gyda gwahaniaethau cynyddol rhwng systemau addysg Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, bydd angen ystyried yr angen am gyflwyniad o ryw fath, neu gwrs pontio ar gyfer y sawl sydd wedi cymhwyso tu allan i Gymru sydd am ddod i weithio yma. Os felly, gellid cynnwys cyflwyniad i’r Gymraeg, o ran ymwybyddiaeth iaith, ac o ran sgiliau sylfaenol (neu fwy). 

3. Cefnogaeth i’r gweithlu: adnoddau cyfrwng y Gymraeg / y Gymraeg fel pwnc

3.1   Mae adnoddau addysgiadol o safon ac ansawdd uchel yn hanfodol.  Cyfeiriodd y Prif Weinidog at bwysigrwydd geiriaduron ac adnoddau digidol wrth lansio’r strategaeth newydd.

3.2   Mae angen mwy sylfaenol na hynny - am yr adnoddau sydd yn hanfodol ar gyfer addysgu cyrsiau TGAU /UG/U newydd. Ni ddylai’r gweithlu fod yn cyfieithu adnoddau oherwydd nid yw’r gwerslyfrau Cymraeg yn barod erbyn cychwyn addysgu’r manylebau newydd. Mae hyn yn creu llwyth gwaith aruthrol ac yn annheg ar y gweithlu a’r disgyblion. Mae angen cynllunio rhaglen gydag amserlen gadarn ar gyfer paratoi adnoddau i gyd-fynd â chyrsiau / cymwysterau newydd. Mae gan Cymwysterau Cymru rôl bwysig i chwarae yn sicrhau hyn.

4. Ehangu addysg cyfrwng Cymraeg /newid Categori Iaith Ysgol - Symud ar hyd y Continwwm

4.1   Mae angen cynllun manwl, penodol ac uchelgeisiol, gyda chamau gweithredu clir, targedau twf a chyllideb; bydd angen nodi’r prif bartneriaid a sicrhau bod cyfundrefn yn ei lle sy’n golygu eu bod nhw’n atebol i’r cynllun.

4.2   Bydd angen iddo gwmpasu’r blynyddoedd cynnar, ysgolion cyfrwng Cymraeg, ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion Saesneg, addysg ôl-16 mewn ysgolion a cholegau addysg bellach, prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith, dysgu gydol oes ac addysg uwch.

4.3   Mae angen sicrhau cefnogaeth i ysgolion gynllunio ar gyfer symud ar hyd y continwwm - o newid ethos ysgol i ychwanegu at weithgareddau a dysgu cyfrwng Cymraeg; cynllunio’r gweithlu a chyfathrebu gyda rhieni.

4.4   Mae rhieni a llywodraethwyr yn grwpiau pwysig a dylanwadol. Mae cyfleoedd i ddarparu gwybodaeth, arweiniad a hyd yn oed hyfforddiant i lywodraethwyr, ac mae hynny’n cynnig cyfle o ran trosglwyddo negeseuon a gwybodaeth allweddol. Gyda newidiadau i’r rheoliadau sy’n rheoli cyrff llywodraethu ysgolion yn yr arfaeth, a phwyslais newydd ar sicrhau lefelau addas o arbenigedd, gellid sicrhau bod dealltwriaeth o werth, pwysigrwydd a rôl y Gymraeg (a hynny o fewn cyd-destun continwwm ieithyddol ysgolion) yn un o’r meysydd hynny.

5. Strwythurau o amgylch yr ysgol

5.1   Dylid sicrhau bod modd i weinyddiaeth fewnol ysgolion ddigwydd yn y Gymraeg – o safbwynt perthynas yr ysgol â’r Awdurdod Lleol, y consortiwm rhanbarthol, Llywodraeth Cymru, Estyn ac unrhyw gyrff/asiantaethau swyddogol eraill.

5.2   O ran y corff llywodraethol, dylai’r Awdurdod Lleol sicrhau bod modd i’r cyfarfodydd ddigwydd drwy gyfrwng y Gymraeg, ble mae’r ysgol yn dymuno gwneud hynny, drwy ddarparu cyfieithu (ar y pryd yn y cyfarfod; a chyfieithu unrhyw ddogfennaeth berthnasol) ar gyfer unrhyw aelodau o’r corff nad ydynt yn medru’r Gymraeg.

5.3   Rydym eisoes wedi crybwyll pwysigrwydd cynnig gofal plant yn y Gymraeg. Mae hynny'r un mor wir ar gyfer gwasanaethau cofleidiol eraill, megis clybiau brecwast, clybiau ar ôl ysgol, clybiau gwyliau, gweithgareddau allgyrsiol (trwy’r ysgol, ac eraill). Mae angen ystyried y gweithwyr hynny a’u rôl a sut i ddatblygu eu gallu i ddarparu gwasanaeth yn y Gymraeg.

UCAC
Tachwedd 2016